17 - 18 Hydref 2019, ICC Casnewydd
Y GYNHADLEDD
Yma yng Nghymru, rydym ar drothwy penderfynu ar orwelion newydd ac rydym wedi pennu gweledigaeth i weithio gyda'n gilydd i drawsnewid ein cenedl. Derbynnir bellach na ellir gwneud y dasg hon ar ein pen ein hunain – rhaid i bob un ohonom fel actorion yn y system iechyd cyhoeddus ehangach, edrych y tu hwnt i ffiniau ein sefydliadau ein hunain, gan gydweithio i ddylanwadu ar y penderfynyddion ehangach, a gwahodd partneriaid i gyd-gynhyrchu bywydau iachach yma, ac o amgylch y byd.
Ein ffocws nawr yw creu rhai blociau adeiladu diriaethol, atebion ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth a fydd, pan fyddant wedi'u gosod gyda'i gilydd, yn trawsnewid ein cenedl i adeiladu Cymru iachach, a chyfrannu at gymuned fyd-eang iachach.
Bydd Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 unwaith eto yn dwyn ynghyd safbwyntiau a lleisiau o bob rhan o iechyd, addysg, tai, technoleg, yr amgylchedd, diwydiant a llywodraeth.
Dros ddeuddydd, byddwn yn arddangos yr ymchwil ddiweddaraf, yn clywed enghreifftiau o'r hyn sy'n gweithio'n dda yma a thramor, ac yn agor trafodaeth heriol, adeiladol ynghylch yr hyn sydd angen digwydd i symud o syniadau i weithredu.

SIARADWYR
SESSIYNNAU SBOTOLAU
Mae sesiynau sbotolau yn gyfle i fynd at wraidd pwnc penodol, gan ystyried amrywiaeth o safbwyntiau. Wedi'u cyflwyno mewn amrywiaeth o fformatau, mae sesiynau Sbotolau yn ceisio dangos syniad neu arfer da; symbylu sgwrs heriol; neu greu atebion.
SGYRSIAU SYDYN
Mae'r fformat diddorol ac effeithiol hwn yn cyfuno pŵer sgwrs fer â hwyl disgo tawel. Cyflwynir un pwnc neu syniad mewn 5 munud gyda 5 sleid, gan fynd â chi yn syth at y pwynt.
MEDDYLIATHON
Gan ddewis o un o dair her, mewn 3 awr yn unig, byddwch yn gweithio ar atebion, ac yn y pen draw byddwch yn cyflwyno'r atebion yn ôl i banel o feirniaid. Caiff yr “heriau” eu cyflwyno gan “berchennog her” yn ystod sesiwn lawn y bore a fydd yn gosod y cyd-destun mewn neges fer 2 funud!
Siarter Partneriaeth Rhyngwladol Iechyd
Bydd y gynhadledd yn gyfle i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ail-ymrwymo i ddyheadau'r Siarter. Bydd y sesiynau sbotolau yn ategu'r seremoni ail-ymrwymo, yn gyntaf, gyda lansiad Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter a ddatblygwyd ar y cyd gan GIG Cymru.
MEWN PARTERNIAETH GYDA

Mae'r Hwb Gwyddorau Bywyd yn anelu i sbarduno newid trawsnewidiol systematig yn y sectorau iechyd a gofal i greu dyfodol gwell i bobl Cymru.
Yn dilyn proses gaffael drylwyr sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, bydd y gynhadledd eleni yn y Ganolfan Gynhadledd Ryngwladol (ICC), Casnewydd.
Mae gan yr ICC fannau iach disglair ac amlbwrpas, maent yn hyrwyddwyr cynnyrch bwyd lleol ac mae ganddo fynediad sydd yn hygyrch a chynhwysol i bawb.
LLEOLIAD
TEITHIO
Mae'n hawdd cyrraedd yr ICC gyda bws gwennol o orsaf reilffordd Casnewydd i'r safle.
CEFNOGI AC ARDDANGOS
Ymunwch yn y sgwrs ar sut y gallwn adeiladu ar ein cryfderau i creu dyfodol cynaliadwy fel noddwr neu arddangoswr swyddogol yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 - y cyfle perffaith i leoli eich sefydliad ochr yn ochr â siaradwyr a chydweithwyr deinamig sydd ag ymrwymiad i wella iechyd a dyfodol Cymru.
Os hoffech arddangos neu archwilio cyfleoedd partneriaeth, cysylltwch â Allison Pinney Collis, Rheolwr Cyfathrebu, Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn uniongyrchol ar allison.pinneycollis@wales.nhs.uk

IHCC

Mae gan y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) gylch gwaith cenedlaethol i gryfhau llywodraethu a chefnogi sut y mae'r GIG yng Nghymru yn trefnu ei weithgarwch iechyd byd-eang, gan geisio adeiladu Cymru iachach, hapusach a thecach drwy hyrwyddo'r ffordd rydym yn gweithio o fewn ein ffiniau a'r tu hwnt iddynt. Mae'n cysylltu'r holl Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru drwy'r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol.
Mae'r Siarter yn ymrwymiad cenedlaethol unigryw, sy'n cydlynu ein dull o ran gweithgarwch iechyd rhyngwladol, gan gryfhau cydweithio, ymchwil a rhannu polisïau ac arfer yn fyd-eang er mwyn sicrhau mwy o gynaliadwyedd a chydlyniad. Bydd y gynhadledd yn gyfle i'r holl Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ailymrwymo i ddyheadau'r Siarter ar ôl pum mlynedd cyntaf ei bodolaeth, ac i roi cyfle i ddenu llofnodwyr a rhanddeiliaid newydd.
Bydd y sesiynau sbotolau yn ategu'r seremoni ailymrwymo, yn gyntaf, gyda lansiad Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter a ddatblygwyd ar y cyd gan GIG Cymru.
Mae'r pecyn cymorth yn cynnig safbwynt Cymreig ac arweiniad ar bynciau fel cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd ar Roi Offer Meddygol a rhoi tystiolaeth o'r wybodaeth a'r sgiliau a gafwyd mewn partneriaethau rhyngwladol drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Yn ail, bydd y Byrddau a'r Ymddiriedolaethau Iechyd yn amlygu arfer da mewn partneriaethau rhyngwladol, gan ddangos sut y mae'r partneriaethau wedi cynyddu gwybodaeth a sgiliau ac wedi bod o fudd i iechyd poblogaeth Cymru ac i wledydd sy'n bartneriaid.
Yn olaf, bydd adnodd dysgu seiliedig ar Gofnod Staff Electronig Cymru gyfan ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang (wedi'i deilwra i'r GIG) yn cael ei drafod af ffurf gweithdy, gan roi cyfle i ddylanwadu ar y broses ddatblygu.